Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg


Lleoliad:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Medi 2024

Amser: 09.28 - 13.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14090


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Buffy Williams AS (Cadeirydd)

Cefin Campbell AS

Gareth Davies AS

Tom Giffard AS

Julie Morgan AS (yn lle Jack Sargeant AS)

Lesley Griffiths AS (yn lle Hefin David AS)

Lee Waters AS

Heledd Fychan AS

Tystion:

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Alistair Davey, Llywodraeth Cymru

Taryn Stephens, Llywodraeth Cymru

Iwan Roberts, Llywodraeth Cymru

Bethan Webb, Llywodraeth Cymru

Michael Connolly, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Tom Lewis-White (Ail Glerc)

Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc)

Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol)

Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol)

Sian Thomas (Ymchwilydd)

Michael Dauncey (Ymchwilydd)

Osian Bowyer (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Jack Sargeant AS, roedd Julie Morgan yn dirprwyo ar ran Jack a Lesley Griffiths AS yn dirprwyo ar ran Hefin.

1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A datganodd Cefin Campbell AS fuddiant gan y bu’n rhan o’r gwaith o ddatblygu Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

 

</AI1>

<AI2>

2       Plant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon: sesiwn dystiolaeth

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.

2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch a oes unrhyw amrywiadau rhanbarthol mewn perthynas ag atgyfeiriadau camfanteisio troseddol.

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

- ffigurau 2024 ar nifer y gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru;

- ffigurau 2024 ar y niferoedd sy'n mynd drwy hyfforddiant gwaith cymdeithasol;

- pa mor aml y mae byrddau diogelu yn cyfarfod;

- canlyniadau trafodaethau gyda Gweinidog diogelu y DU ar 23 Hydref 2024 ynghylch argymhellion Adolygiad Jay. 

 

</AI2>

<AI3>

3       Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1

3.1 1.2 Croesawodd y Cadeirydd Heledd Fychan AS a Lee Waters AS o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, a ymunodd â'r cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.49 ar gyfer Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AS, yr Aelod sy’n gyfrifol.

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y canlynol:

-       Y gofynion ar gyfer ymgynghori yn y Bil ac, yn benodol, mewn perthynas ag ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau;

-       Ystyriaeth benodol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth ddatblygu’r Bil ac ym mha ffordd y cafodd ei Erthyglau ystyriaeth uniongyrchol yn yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant.

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI4>

<AI5>

</AI17>

<AI18>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI18>

<AI19>

6       Trafod y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau tystiolaeth blaenorol.

6.1 Trafododd Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol. 

</AI19>

<AI20>

7       Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 – trafod y cwmpas a’r dull gweithredu

7.1 Gan fod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod yn y cyfarfod nesaf.

</AI20>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>